Planedau y Maes Chwarae
Gall ffuglen wyddonol achosi cur pen pan
fydd y ffeithiau gwyddonol yn anghywir. Mae
maint y sêr a’r pellteroedd rhyngddynt yn enfawr.
Rydym ni’n dechrau gyda’r ddaear fel marblen.
Ydych chi’n gallu dyfalu maint yr haul felly?
Arddangosir eglurhad syml y pellter o’r
lleuad i’r ddaear. Mae’r wers yn symud tu
allan i weld y pellter rhwng y planedau. Bydd y
plant yn tynnu rhaff hir iawn gyda’r planedau
wedi eu clymu ar y rhaff.
Mae’r gweithdy yn addas ar gyfer plant CA2, sef
blynyddoedd 3-6, ac mae’n para am tua awr a
hanner. Derbynnir 30 o blant mewn gweithdy.
Rocedi Pop
Mae’r gweithdy yma'n dysgu am
rymoedd â’r cysyniad o wneud profion
teg. Pwrpas y gweithdy ydi dysgu am
gysyniadau gwyddonol mewn modd
hwyliog.
Trwy ddefnyddio dwr a gwasgedd aer
mae’r plant yn ceisio lansio eu rocedi.
Rhaid arbrofi gyda’r dwr er mwyn cael y
cyfuniad gorau i lansio’r roced mor uchel â
phosib. Mae’r gweithdy yn addas i blant
CA2, sef blynyddoedd 3-6. Mae’n para
am tua awr a hanner. Derbynnir 30 o
blant mewn gweithdy.
Cwpan Nappi a heulwen.
Yw’r cwestiwn mwy poblogaidd efo plant
“Sut mae pobl yn defnyddio toiled yn
y gofod heb ddisgyrchiant?”
Mae’r gweithdy yma (os mae’r haul yn
tywynnu) yn arddangos panel egni’r
haul gyda’i briodweddau rhyfeddol.
Cafodd y plant siawns i ddysgu sut mae
llwybrau trydan yn gweithio ac yn
meddwl sut i leihau’n ôl troed carbon.
Mae’r gweithdy yn addas i blant CA2,
sef blynyddoedd 3-6.ac mae’n para am
tua awr. Derbynnir 30 o blant mewn
gweithdy.
Gweithio yn y Gofod
Mae aer o’n cwmpas ni i gyd. Mae hi’n
hawdd i’w anwybyddu. Ond yn y
gweithdy yma, mi fydd y plant yn
darganfod mai aer yn oll bresenol ac
mae siwtiau astronawt yn ffitio yn glôs
fel llong gofod fach. Gwasgwyd boteli
plastig o dan bwysedd awyrol ac mae
plant yn defnyddio baswca aer.
Wedyn, mae plant yn gwneud
effeithydd y penbraich fel y Canada
Arm. 2 awr CG Blwyddin 5&6
You are viewing the text version of this site.
To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.
Need help? check the requirements page.